Friday, August 26, 2011

NOSON LAWEN YN Y PARC


Cofiwch am y Noson Lawen

NOS LUN AWST 29 yng nghwmni

John ac Alun, Dilwyn Pierce, a Doniau Lleol.

Paned a lluniaeth ysgafn rhwng dwy ran y noson.

Dewch draw am noson hen fasiwn Gymreig.

Tocynnau ar werth gan aelodau`r pwyllgor, ac yn Awen Meirion.

Oedolion £7, £2 i blant.

Y FRWYDR YN PARHAU


Mae gennym ddwy flynedd nawr i ail afael yn y frwydr.
Gall llawer ddigwydd cyn 2013.
Beth fydd sefyllfa ariannol y Cyngor erbyn hynny?
Beth fydd polisiau`r Cyngor?
A chofuwch bod llawer mwy o fabanod yn y Parc ebyn hyn.
Ymlaen a`r frwydr.

Wednesday, March 23, 2011

EISTEDDFOD YR URDD

Llongyfarchiadau i bawb fu`n llwyddiannus yn yr
Eisteddfod Gylch y Sadwrn diwethaf, yn unigolion
a phartion.
Dymunwn lwyddiant i chi eto yn yr Eisteddfod Sir
dydd Sadwrn.y 26ain yn Nolgellau.
Ysgol fach wledig --ond digon o dalent, a phawb yn cael
cyfle i gymryd rhan.

PWYLLGOR AMDDIFFYN

Bydd y Pwyllgor Amddiffyn llawn yn cyfarfod
nos Fercher Mawrth 30 am 8 o`r gloch
yn yr Ysgol.

CYFARFOD NESAF

Bydd cyfarfod gwaith i bawb fedr ddod yn yr ysgol
Nos Wener Mawrth 25 am 8 o`r gloch.